Gwyddoniaeth
Oddi ar Wicipedia
System o wybodaeth a dealltwriaeth o'r byd ffisegol, sy'n defnyddio dulliau a ellir eu gwirio yw Gwyddoniaeth. Yn benodol, mae'n cyfeirio at system o ganfod gwybodaeth sy'n seiliedig ar empiriaeth, arbrofi, a naturioldeb methodolegol; ac at y cyfanrwydd o wybodaeth y mae pobl wedi'u casglu trwy ymchwil o'r fath. Athroniaeth gwyddoniaeth yw astudiaeth haniaethol o natur a chyfiawnhâd gwybodaeth wyddonol.
Mynna gwyddonwyr bod yn rhaid i ymchwil wyddonol ufuddhau i'r dull gwyddonol, gan egluro digwyddiadau yn nhermau achosion naturiol, a gwrthod syniadau goruwchnaturiol. Hynny yw, nid lle gwyddoniaeth ydy gofyn 'Oes na Dduw?'
Dosbarthir meysydd gwyddoniaeth yn ddau brif grŵp: y gwyddorau naturiol, a'r gwyddorau cymdeithasol.
Mae Mathemateg yn arf hanfodol i'r gwyddonydd, ac mae Mathemateg yn debyg i Wyddoniaeth gan ei bod yn astudiaeth drwyadl a rhesymegol o bynciau megis maint, strwythur, gofod, a newid. Fodd bynnag, ni ellir ystyried Mathemateg yn Wyddoniaeth, gan fod y dull mathemategol yn gwbl wahanol i'r dull gwyddonol.
Cyfranodd llawer iawn o wyddonwyr o Gymry at wyddoniaeth dros y 400 mlynedd diwethaf, gan gynnwys dau enillydd y wobr Nobel: Brian David Josephson (g. 1940) a Bertrand Russell ((18 Mai 1872 – 2 Chwefror 1970) a'r economegydd Clive W. J. Granger (g. 1934).
[golygu] Gweler hefyd
| Gwyddoniaeth naturiol |
|---|
| Bioleg | Cemeg | Ecoleg | Ffiseg | Gwyddorau daear | Seryddiaeth |
| Gwyddorau cymdeithas |
|---|
| Addysg | Anthropoleg | Cymdeithaseg | Daearyddiaeth ddynol | Economeg |
| Gwyddor gwleidyddiaeth | Hanes | Ieithyddiaeth | Rheolaeth | Seicoleg |