Address:   Home Page

Cemeg

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

[golygu] Cemeg

Model Atom (Yn cynnwys Niwclews a haen o electronnau)

Astudiaeth mater yw Cemeg (o'r Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â'i gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghyd â'i drawsnewidiadau ar y lefel atomig. Mae'n delio gan fwyaf gyda chasgliadau o atomau fel nwyon, moleciwlau, crisialau a metelau, yn ogystal â'u trawsffurfiadau a'u rhyngweithiadau i ddod yn ddefnydd a ddefnyddir ym mywyd cyffredin. Yn ogystal â hynny, mae cemeg yn ymwneud â deall priodweddau a rhyngweithiadau o atomau unigol a defnyddio'r wybodaeth yna ar y lefel macrosgopig. Yn ôl cemeg fodern, mae priodweddau ffisegol defnyddiau wedi eu penderfynu ar y raddfa atomig, sydd yn ei dro yn cael ei ddiffinio gan rymoedd electromagnetig rhyngatomig a deddfau mecaneg gwantwm.

Mae cemeg yn gorgyffwrdd â ffiseg, gan drin ynni a sut mae o'n ymadweithio gyda mater. Mae hefyd yn gorgyffwrdd cryn dipyn gyda bioleg, yn arbennig trwy'r disgyblaethau cysylltiedig o fiocemeg a bioleg foleciwlaidd.

Mae'n bosib gweld trefn yr elfennau yn y Tabl Cyfnodol sy'n dangos y nifer o brotonau sydd gan bob un a beth yw pwysau atomau'r elfen honno gan ddefnyddio Rhif Avogadro. Mae'n bosib gweld erthyglau sydd yn ymdrîn â chemeg trwy edrych yn y categori cemeg.

Mae'r pynciau canlynol yn is-ddosbarthiad o'r pwnc.
A Alcohol, Alotrop, Amonia, Anfetel, Anod, Arf gemegol, Atom,
B Bas, Bensen, Bond cofalent, Bond deusylffid,
C Catalysis, Cloroffyl, Cyfansoddyn, Cyfradd adwaith, Cyfrifiadau Cemegol, Cylchred Garbon,
E Egnieg,
F Fflam,
Ffotosynthesis, Ffrwydryn, Ffwrnais,
G Geocemeg, Gwobr Cemeg Nobel,
H Halogen, Hydrocarbon,
I IUPAC, Isomer, Isotop,
L Lactos,
M Metel, Metel alcalïaidd, Metel daear alcalïaidd, Moleciwl,
N Nanogwyddoniaeth, Nwy, Nwyon nobl,
O Osôn,
P PH, Pentos, Plastig, Powdwr gwn,
R Rhestr elfennau yn nhrefn eu darganfyddiad, Rhif Atomig, Rhif màs,
S Sylffwr deuocsid, Sbectrwm Electromagnetig,
T Terpenoid, Thiamin, Tymheredd a Gwasgedd Safonol, Tân,
Ï Ïon,



Gwyddoniaeth naturiol
Bioleg | Cemeg | Ecoleg | Ffiseg | Gwyddorau daear | Seryddiaeth

Offer personol
Ieithoedd eraill
Your Ad Here