Address:   Home Page

Bioleg

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Bioleg
Bioleg

Anatomeg
Biocemeg
Bioleg cell
Bioleg ddynol
Bioleg esblygiadol
Bioleg foleciwlaidd
Bioleg forol
Botaneg
Ecoleg
Estronfioleg
Ffisioleg
Geneteg
Microfioleg
Paleontoleg
Sŵoleg
Tacsonomeg
Tarddiad bywyd

Bioleg - neu Bywydeg - yw'r maes gwyddonol sy'n astudio bywyd. Mae'n delio â nodweddion, dosbarthiad, ac ymddygiad organebau, sut mae rhywogaethau'n dod i fodolaeth, a'r berthynas sydd ganddynt efo'i gilydd ac efo'r amgylchedd.

Escherichia coli Coedredynen
Chwilen Goliath Gafrewig
Mae bioleg yn astudio amrywiaeth fywyd (clocwedd o'r top-chwith) E. coli, coedredynen, gafrewig, chwilen Goliath

Mae bioleg yn cwmpasu sbectrwm llydan o feysydd academaidd sy'n astudio ac archwilio pob rhan o natur.

Botaneg yw'r astudiaeth o blanhigion, Sŵoleg yw'r astudiaeth oanifeiliaid ac Anthropoleg yw'r adran o fioleg sy'n astudio bodau dynol.

Ar raddfa moleciwlaidd, astudir bywyd o fewn y pynciau: bioleg foleciwlaidd, biocemeg a geneteg foleciwlaidd]].

Ar y lefel nesaf, sef y gell ceir: bioleg cell

Ar raddfeydd amlgellog, caiff daw'r dosbarthiadau canlynol: ffisioleg, anatomeg a histoleg.

Mae bioleg ddatblygiadol yn astudio bywyd ar lefel ddatblygiad organeb unigol sef ontogenesis.

Yn symud i fyny'r raddfa i fwy nag un organeb, mae: geneteg sef yr astudiaeth o sut mae etifeddeg yn gweithio rhwng rhiant ac epil.

Mae etholeg yn astudio ymddygiad grŵp mwy nag un unigolyn a geneteg poblogaeth yn edrych ar yr holl boblogaeth. Mae systemateg yn astudio'r raddfa aml-rhywogaeth o linachau.

Astudir poblogaethau cyd-ddibynnol a'u cynefinoedd yn osbarthiad a elwir: ecoleg a bioleg esblygiadol.

Maes dyfaliadol newydd yw: estronbioleg, sy'n archwilio i'r tebygolrwydd o fywyd tu hwnt i'r Ddaear.

Taflen Cynnwys

[golygu] Dosbarthiad bywyd

Prif erthygl: Dosbarthiad biolegol

Gelwir y system dosbarthiad dominyddol yn 'Tacsonomeg Linnaeus', sy'n cynnwys rhenciau ac enwau deuenwol. Caiff sut enwir organebau ei reoli gan gytundebau rhyngwladol megis Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Botanegol (ICBN), Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Sŵolegol (ICON), a Chod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Bacteria (ICNB). Trwy ddosbarthiad biolegol gallwn weld sut mae anifeiliaid wedi esblygu ac addasu i'w cynefinoedd.

[golygu] Pethau byw

Gwelwch Wikispecies am fwy o wybodaeth ar ddosbarthiad biolegol

Bacteria
Archaea
Ewcaryotau

[golygu] Hanes

Prif erthygl: Hanes bioleg

Tarddiad y pwnc hwn a sefydlwyd fel pwnc yn yr 19eg ganrif, mewn gwirionedd, oedd meddygaeth traddodiadol a'r astudiaeth o natur sy'n tarddu o Galen ac Aristotle a addaswyd wedyn gan ffisegwyr Mwslemaidd megis al-Jahiz ac Avenzoar. Yn ystod yr Oes Aur Ewropeaidd y ddau gymhelliad mwyaf oedd y chwant am wybodaeth a'r darganfyddiadau mawr ym maes anifeiliaid gwahanol, prin a ffosiliau gan eu dosbarthu mewn modd rhesymegol.

[golygu] Cysyniadau Allweddol Bioleg

Mae prif ddarganfyddiadau bioleg yn cynnwys:



Gwyddoniaeth naturiol
Bioleg | Cemeg | Ecoleg | Ffiseg | Gwyddorau daear | Seryddiaeth

Offer personol
Ieithoedd eraill
Your Ad Here